Pleidleisiwch dros Llafur Cymru ar 12 Rhagfyr er mwyn ailadeiladu Prydain ar gyfer y mwyafrif ac nid y lleiafrif.

Ni allwn fforddio 5 mlynedd arall o’r Torïaid. Mae pobl sy’n gweithio yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd, mae swyddi’n ansicr, ac mae toriadau milain y Torïaid i gyllideb Cymru wedi llorio ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gallwn wneud yn well na hyn. Mae arnom angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru, i roi blaenoriaeth i bobl sy’n gweithio a’u teuluoedd.

Bydd Llafur yn ailadeiladu Prydain ar gyfer y mwyafrif. Bydd yn codi cyflogau, yn gwneud swyddi’n fwy diogel, yn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac yn rhoi blaenoriaeth i bobl sy’n gweithio a’u teuluoedd.

Bydd Llafur yn:

  • Rhoi pŵer yn ôl i bobl sy’n gweithio, yn cryfhau undebau i ennill cyflogau uwch, gwella sicrwydd swyddi a chael telerau gwell yn y gwaith.
  • Cyflwyno cyflog byw gwirioneddol ar unwaith a fydd o leiaf £10 yr awr, a gwahardd contractau dim oriau.
  • Rhoi mwy o’u hamser yn ôl i bobl sy’n gweithio, gan greu 4 gŵyl banc newydd, yn cynnwys Dydd Gŵyl Dewi.
  • Dod â Chredyd Cynhwysol i ben, adeiladu system nawdd cymdeithasol decach a darparu cyllid priodol i Gymru. Bydd yn rhoi terfyn ar dlodi mewn gwaith o fewn y tymor cyntaf wrth y llyw, ac yn dileu’r angen am fanciau bwyd o fewn 3 blynedd.
  • Cicdanio chwyldro diwydiannol gwyrdd, gan greu cannoedd o filoedd o swyddi cyflog uchel, sgil uchel sy’n cydnabod undebau llafur, ledled y wlad.

 

Dysgwch fwy am gynllun Llafur ar gyfer pobl sy’n gweithio a’u teuluoedd (Saesneg)